Plant 5-11 Oed

Mae croeso cynnes i unrhyw un gystadlu yn Eisteddfod Y Fenni, ble bynnag y maen nhw’n byw, Gallant gystadlu yn Gymraeg neu yn Saesneg, fel unigolion, neu fel aelodau o grwpiau, ysgolion neu syfydlaoedd.

Cystadlaethau

Mae cystadlaethau yn cynnwys canu (lleisiol ac offerynnol), dawnsio gwerin, dawnsio disgo a llefaru ar gyfer unigolion a grwpiau. Gellir gweld rhestr lawn yn y ffurflen gais (gwelir “Sut i gystadlu” isod).

Dyddiadau ac amseroedd

  • Dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau: Mawrth 13eg 2025.
  • Rhagbrofion (os mwy na 3)
  • Cystadlaethau terfynol ar y llwyfan: o 9:00 ymlaen, Dydd Sadwrn, Mawrth 29ain 2025

Dyddiadau a lleoliadau rhagbrofion 2025

Mae’r rhagbrofion i gyd yn dechrau am 4.00 y prynhawn.

Cystadlaethau      Dyddiad      Lleoliad   
Llefaru a Darllen ar yr olwg gyntaf Dydd Llun 17eg Mawrth Llantilio Pertholey
Unawd lleisiol ac ensemble Dydd Mawrth 18fed Mawrth Ysgol Gymraeg Y Fenni
Côr Dydd Mercher 19eg Mawrth Cantref
Offerynnol cynnwys piano Dydd Iau 20fed Mawrth Llanfoist Fawr

 

Cystadlaethau terfynnol, Capel y Methodist, Stryd y Castell, Y Fenni NP7 5EH ar Sadwrn Mawrth 29ain 2025.

Gwobr Arbennig i’r Côr!

Bydd y côr buddugol yn derbyn tarian i gadw am flywddyn ynghyd a tharian fach i gadw. Eleni bydd pob côr buddugol yn derbyn gwobr ariannol i’r ysgol a thystysgrif i bob aelod o’r côr.

Rheolau cystadlu

  • Rhaid i oedolyn cyfrifol, boed yn riant neu warcheidwad, yn athro neu’n arweinydd cymdeithas, fod gyda phlant dan 12 oed bob amser.
  • Gall cystadleuwyr ddewis eu darnau eu hunain, ond eu bod o fewn 4 munud o hyd.
  • Rhaid i’r deunyddiau a ddefnyddir, gan gynnwys testunau, cerddoriaeth a chaneuon, fod yn addas i bob oedran. Gwaherddir unrhyw berfformiad sy’n cynnwys deunydd anaddas.
  • Am resymau diogelwch a gofod, rydym wedi gosod uchafswm ar gyfer y niferoedd sy’n cystadlu yn y cystadlaethau i ensembles offerynnol a dawnsio cyfoes.

Cystadlaethau cerddorol

  • Rhaid i gystadleuwyr ddod â 2 gopi o’r gerddoriaeth gyda nhw, gan gynnwys y copi gwreiddiol. Mae un ar eu cyfer eu hunain a’r llall ar gyfer y beirniad; dylai enw’r cystadleuydd a rhif y gystadleuaeth fod ar y copi hwn. Byddwn yn dinistrio copïau ar ôl yr eisteddfod, i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawlfraint.
  • Bydd yn rhaid gwahardd unrhyw gystadleuydd nad yw’n cyflwyno cerddoriaeth.
  • Gall arweinwyr neu cyfeilydd fod yn oedolion neu’n blant.
  • Gofynnir i gystadleuwyr os oes angen cyfeilydd arnynt roi gwybod i’r trefnwyr a chyflwyno’r cyfeiliant ymlaen llaw (gweler y ffurflen gais isod).

Cystadlaethau llefaru

Gofynnir i’r cystadleuwyr ddod â 2 gopi o’r darn ar gyfer y beirniad a’r trefnydd.

Sut i gystadlu

Gallwch gwblhau’r ffurflen gais ar-lein. Hefyd, gallwch lawr lwytho ‘pdf’ er mwyn ei brintio allan a’i lenwi.

Os hoffech chi gopi caled o’r gais, cysylltwch â Rosemary Williams ar 01873 811814 neu davidwilliams177@btinternet.com neu drwy’r post at: Rosemary Williams, 7 Cwrt Newydd, Crughywel, Powys, NP8 1AQ

Rhagor o wybodaeth

Os oes ymholiadau gennych, cysylltwch â Rosemary Williams ar 01873 811814 neu davidwilliams177@btinternet.com

Nodiadau

  • Croeso cynnes i ymwelwyr. Gall oedolion brynu tocyn am £3.00 yn y rhagbrofion, sy’n rhoi mynediad i’r rhagbrofion i gyd ac i’r cystadlaethau terfynol Dydd Sadwrn, Mawrth 29ain 2025.
  • Mae plant a phobl ifanc i fyny at 18 oed yn dod i mewn am ddim.
  • Byddwn yn tynnu ffotograffau ac yn eu defnyddio i hybu’r eisteddfod. Rhowch gwybod i aelod o’r Pwyllgor os nad ydych am eich plentyn gael ei lun wedi tynnu.